Delyth Jewell AS

Cadeirydd

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol,

 

 

10 Mai 2024

 

 

Annwyl Delyth Jewell

 

 

Ysgrifennaf ar ran Cyngor Gweithredu Cymru Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, yr wyf yn ei gadeirio.

 

Rydym yn ysgrifennu atoch i fynegi ein pryderon ynghylch penderfyniad diweddar Cyngor Llyfrau Cymru (CLlC) i roi'r gorau i ariannu'r cylchgrawn Planet: the Welsh Internationalist a'r New Welsh Review.

 

Rydym yn ymwybodol bod Planet a'r New Welsh Review wedi ysgrifennu atoch i esbonio’r mater hwn yn helaeth.

 

Yn Awst 2023 llofnododd yr NUJ lythyr agored a oedd yn rhan o'r ymgyrch Arbed Cylchgronau Cymru ar y cyd â 173 o lofnodyddion eraill, yn cynnwys Cymdeithas Awduron Cymru, WalesPENCymru, Cymdeithas yr Iaith a’r Gymdeithas Ysgrifennu Cymreig yn Saesneg.  Amlygodd y llythyr hwn pa mor enbyd yw cyflwr ariannol cylchgronau a gwefannau bellach, yn sgil toriadau olynol, targedau sy'n fwyfwy anodd a llafurus , ac effaith hyn ar yr amodau gwaith.

 

Mae’r toriadau olynol, y lefelau grantiau sy'n lleihau, ynghyd â’r amodau cyllido sy’n fwyfwy llym, wedi cael eu normaleiddio, gan greu cynsail sy'n peri i amodau gwaith y gweithwyr a ffioedd cyfranwyr isel blymio i’r dyfnderoedd.  Yn achos Planet, mae hyn yn golygu bod eu grant graidd gan CLlC wedi cael ei haneru o £98,892 yn 2008 i £45,000 a bod yr aelodau staff a oedd yn gyfarwyddwyr yn gorfod dygymod â chyflogau isel ac oriau goramser hirach nag erioed.

 

Ac yna, ar ddiwedd y llynedd, penderfynodd CLlC beidio â chynnig rhagor o gyllid i Planet a'r New Welsh Review fel rhan o ganlyniadau'r rhyddfraint grantiau 2024-2028 newydd ar gyfer cylchgronau Saesneg.  Mae diddymu'r cyllid i'r ddau gylchgrawn a oedd, fel mae’n digwydd, yn flaenllaw yn yr ymgyrch, wedi peri i gyhoeddwyr cylchgronau a gwefannau deimlo’n fwy  digalon a thanseiliedig nag erioed. 

 

Rydym hefyd yn ymwybodol o’r llythyr gan CLlC dyddiedig 20 Rhagfyr 2023 sydd wedi achosi mwy o bryder. Roedd hwn yn cynnwys y sylw bod rhai o'r cylchgronau wedi cyflwyno'r achos na fyddai eu model busnes yn gynaliadwy bellach hyd yn oed pe byddai'r grant yn cael ei gynyddu.  Mae Planet a'r New Welsh Review wedi tynnu sylw at y ffaith fodrdiffiniad CLlC yn y llythyr ynghylch ‘cynaliadwyedd’ yn amwys a heb ei gyfleu i'r ymgeiswyr yn ystod y broses ymgeisio.

 

Mae'r cyhoeddiadau wedi datgan hefyd nad yw'n wir “y byddai'r [ansylweddoldeb] hwn wedi parhau hyd yn oed pe byddai'r grant wedi cael ei gynyddu.” Yn achos Planet, yn y ceisiadau grant diweddaraf, esboniont sut fyddai'r swm uchaf yr ymgeisiont amdano, sef £75,000, wedi bod yn gynaliadwy. Yn achos Planet a'r New Welsh Review, maent o’r farn eu bod wedi bodloni’r amod grant ‘cymhareb gerio’ o 2:1 fel y'i pennwyd yng nghanllawiau CLlC.

 

Er ein bod yn deall bod CLlC wedi derbyn ceisiadau gwerth £400,000 ar gyfer pot o grantiau gwerth £180,000 a'i fod dan bwysau ei hunan oherwydd toriadau, datgelwyd yn ddiweddarach bod CLlC wedi neilltuo £95,000 ‒ swm sy'n llai na’r ceisiadau am arian gan Planet neu'r New Welsh Review ‒ ar gyfer cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd sbon nad yw wedi'i lansio eto ac nad oedd wedi ymgeisio i’r tendr cystadleuol yn 2023. 

 

O ganlyniad i'r penderfyniadau hyn, a gan fod y cyllid craidd gan CLlC wedi dod i ben o 1 Ebrill 2024, y rhifyn Chwefror 2024 oedd rhifyn olaf Planet a arweiniodd at golli bywoliaeth a 3 swydd ran-amser (1.8 gweithiwr cyfwerth ag amser llawn).  Mae'r New Welsh Review hefyd wedi colli 3 swydd ran-amser gan fod rhaid iddynt ddirwyn y cwmni i ben.

 

Mewn Cymru wydn ‒ sy'n weladwy, yn atebol ac yn amrywiol ‒ mae angen cyfryngau cryf ac mae angen i'r sector gylchgronau a chofnodolion yng Nghymru barhau i feithrin cyhoeddiadau yn y ddwy iaith, adeiladu cysylltiadau diwylliannol, a darparu platfformau ar gyfer deialog hanfodol.  Gall cyfryngau cryf ac amrywiol weithredu fel llais, cydwybod ac ymwybyddiaeth ac maent yn parhau i fod y ffordd fwyaf effeithiol i genedl sgwrsio a llywio'r dyfodol gyda'i gilydd.

 

Rydym yn dal i boeni bod ymgyrchu dros amodau cyllid tecach ar gyfer cylchgronau ‒ yn cynnwys yr erthygl olygyddol tra manwl a diffuant a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2022 ‒ wedi cyfrannu mewn rhyw ffordd at golli eu cyllid. Gofynnwn hefyd a fydd hyn yn golygu bod cyhoeddwyr bellach yn ofni codi eu llais er lles y cyhoedd ynglŷn ag amodau cyllid a thargedau sy'n fythol anoddach 

 

Ym Mehefin 2022, ysgrifennodd yr NUJ at y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon ar y pryd, i fynegi ein pryder ynglŷn â phenderfyniad Cyngor Llyfrau Cymru i roi grant o £100,000 y flwyddyn dros bedair blynedd i Newsquest i sefydlu gwefan newyddion Gymraeg newydd. Ar yr un pryd cafodd y cyllid ar gyfer y wefan newyddion Gymraeg bresennol Golwg 360 ei haneru.

 

Yn unol â pholisi'r NUJ, rydym yn cefnogi'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn cyllido allfeydd cyfryngau newydd, credwn ddylai'r cyfryw gyllid cael ei ffrydio drwy Sefydliad Cyfryngau Cymru sy’n cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant, yn cynnwys yr NUJ.  Esbonnir hyn yn yr adroddiad O Gymru ac i Gymru: tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth er lles y cyhoedd a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2023.

 

Byddai'r NUJ yn falch iawn o fynychu'r sesiwn Pwyllgor nesaf ar 15 Mai 2024 i roi tystiolaeth pe ystyrid y byddai hyn yn ddefnyddiol.

 

 

Yn gywir,

 

Nick Powell

Cadeirydd, Cyngor Gweithredu Cymru

Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr